Carno

Oddi ar Wicipedia
Carno
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth730 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,598.27 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5565°N 3.5319°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000260 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Carno.[1] Saif ar y briffordd A470 rhwng Llanbrynmair a Caersŵs. Mae Afon Carno yn llifo gerllaw'r pentref.

Daeth Carno yn enwog fel canolfan busnes Laura Ashley am rai blynyddoedd. Yn wreiddiol roedd y ffatri yn y ganolfan gymdeithasol yma, ond yn 1967 symudodd i'r hen orsaf reilffordd. Yn ddiweddarach, symudwyd y rhan fwyaf o'r swyddi i'r Drenewydd, a chaewyd y ffatri yng Ngharno yn 2005. Mae Laura Ashley wedi ei chladdu ym mynwent yr eglwys.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

Eglwys Ioan Fedyddiwr, Carno
Tŷ yng Ngharno oddeutu 1885

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Carno (pob oed) (730)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Carno) (255)
  
36%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Carno) (332)
  
45.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Carno) (128)
  
38.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]